Adam Fairweather - Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Arloesi, Smile Plastics
Adam Fairweather yw Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Arloesi Smile Plastics. Cafodd ei sefydlu gyntaf yn y 1990au cynnar, ac mae wedi bod yn geffylau blaen ym maes ailgylchu plastig am bron i ddau ddegawd. Yn 2015, roedd y brand yn 'segur' ond cafodd ei atgyfodi gan Adam Fairweather a'i gyd-sylfaenydd Rosalie McMillan, i arbenigo mewn dylunio deunyddiau a modelau ailgylchu dolen gaeedig. Mae Smile Platics yn gwmni o Dde Cymru, ac yn gweithgynhyrchu paneli addurniadol ar raddfa fawr, wedi'u gwneud yn gyfan gwbl o blastigau wedi'u hailgylchu ac ailgylchadwy.