Hysbysiad Preifatrwydd

HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024

Cyflwyniad/Cefndir

Mae Hotspot Economi Gylchol Ryngwladol yn ddigwyddiad blynyddol, sydd wedi tyfu o ddigwyddiad a gynhaliwyd gyntaf yn yr Iseldiroedd yn 2016.

Bydd y digwyddiad yn arddangos gweithgareddau a mentrau economi gylchol yng Nghymru. Mae’n rhoi cyfle i wneud cysylltiadau rhyngwladol a rhannu dysgu ac arferion da rhwng llywodraethau, y sector cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, y byd academaidd a busnesau, gan alluogi ac ysbrydoli rhagor o sefydliadau i gyflymu’r newid tuag at economi gylchol. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ac ar draws De Cymru.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys casglu data personol y rhai sydd â diddordeb neu sy’n dymuno cymryd rhan yn HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024. Mae casglu’r data hwn yn helpu i symleiddio’r cyfathrebu ynghylch y digwyddiad ac yn ein galluogi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai sydd â diddordeb am ddatblygiad trefniadau a rhaglen y digwyddiad.

Llywodraeth Cymru (‘ni’) yw rheolydd y data personol a gesglir gan yr holl sefydliadau a chontractwyr wedi’u bennu i ddarparu HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024. Bydd y sefydliadau hyn yn cynnwys WRAP a chontractwr arall pan gaiff ei benodi.

Dim ond at ddibenion y digwyddiad y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd, ac rydym am sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r ffordd y gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.

Beth yw’r Sail Gyfreithiol dros brosesu?

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am y rhai sy’n dymuno cymryd rhan yn HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024. Mae’r wybodaeth hon yn debygol o gynnwys data personol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt, fel eich cyfeiriad e-bost. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu a gweinyddu digwyddiad o ansawdd drwy ddarparu diweddariadau a chyfathrebiadau cysylltiedig eraill. Gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir hefyd at ddibenion gwerthuso ac ymarferion cynllunio.

Rydym yn gwneud hyn yn unol â’n Tasg Gyhoeddus – mae angen prosesu data er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolydd.

Os byddwch yn penderfynu nad ydych am dderbyn gwybodaeth mwyach, cewch optio allan ar unrhyw adeg. Rhowch wybod i swyddfa HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024 (manylion isod) a bydd eich manylion yn cael eu dileu o gofrestri’r digwyddiad.

Pa wybodaeth bersonol byddwn ni’n ei phrosesu?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddull adnabod.

Bydd gwybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata yn cynnwys

Enw, sefydliad, cyfeiriad busnes, e-bost busnes, rhif ffôn busnes, gwefan busnes a sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.

Rhennir y data hwn â sefydliadau sydd wedi’u contractio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024 yn unig ac nid at unrhyw ddiben na defnydd arall.

Bydd pobl yn ffilmio ac yn tynnu lluniau yn y digwyddiad, er mwyn hyrwyddo’r digwyddiad drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ddeunyddiau marchnata, cofnodi’r digwyddiad ac, o bosibl, i ganiatáu elfen o gyfranogiad rhithwir yn y digwyddiad.

Os nad ydych am gael eich ffilmio neu i’ch llun gael ei dynnu, cysylltwch â ni o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad.

Bydd ardal yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhai sydd wedi dweud nad ydynt yn dymuno cael eu ffilmio neu i’w llun gael ei dynnu lle na fydd unrhyw luniau’n cael eu tynnu.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r set ddata lawn, a bydd y data’n cael ei gadw’n unol â phrosesau Llywodraeth Cymru ar gyfer cofnodion a rheoli gwybodaeth am hyd at flwyddyn (ar ôl y digwyddiad).

A fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ag eraill?

Mae’r wybodaeth bersonol a roddir yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl sy’n gweithio ar HOTSPOT Economi Gylchol Cymru 2024 a fydd yn cael gweld y data.

Eich hawliau

O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau i wneud y canlynol:

Manylion Cyswllt

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir at ddibenion y digwyddiad hwn, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â’r person isod:

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: