Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024
7 - 9 Hydref
Lleoliad
Caerdydd, Cymru
Amdanom ni
Croeso
Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd Cymru'n cynnal yr European Circular Economy Hotspot 2024: Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024.
Rhannu llwyddiannau
Yn y digwyddiad rhyngwladol hwn, byddwn yn rhannu llwyddiannau a dyheadau economi gylchol Cymru, ac yn dysgu am atebion economi gylchol gan y sector cyhoeddus, y sector preifat, a chymunedau o Gymru a thu hwnt. Bydd cyfle ichi ymgysylltu'n uniongyrchol â phrosiectau o Gymru o feysydd diwydiant, busnes, cyrff cyhoeddus, academia, a'n trefi a dinasoedd.
Ymunwch â ni
Edrychwn ymlaen at groesawu ein harloeswyr, arweinwyr a meddylwyr o bedwar ban byd, i feithrin mwy ar gydberthnasau ac agor cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol. Bydd croeso cynnes i bawb
Byddwn yn chyhoeddi mwy o wybodaeth yn ystod yr wythnosau nesaf ar yr agenda, lleoliadau a sut i gofrestru i fod yn bresennol.
Yn y cyfamser, os oes gennych chi neu'ch sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Hotspot Economi Gylchol Cymru, cysylltwch â ni isod.