Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Gaerdydd

Ynglŷn â’r Digwyddiad

placeholder

Gwybodaeth am y digwyddiad

Mae Hotspot Economi Gylchol Ewrop yn ddigwyddiad blynyddol, sydd wedi tyfu o gynulliad a gynhaliwyd gyntaf yn yr Iseldiroedd yn 2016. Mae'n cael ei gynnal mewn lle gwahanol bob blwyddyn, gyda'r lle hwnnw'n cael ei ddewis am ddangos yr arloesedd a'r arfer rhyngwladol gorau wrth ddatblygu economi gylchol. Dyma rai o'r mannau yn Ewrop sydd wedi cynnal y digwyddiad o'r blaen: Dulyn, Bottrop, Catalonia, Gwlad Belg, yr Alban, a Lwcsembwrg. Roedd Cymru'n falch o gynnal Hotspot Economi Gylchol Ewrop 2024.

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024. Daeth dros 400 o gynrychiolwyr i’r digwyddiadau dros y tridiau. Roedd yr Hotspot yn gyfle i rannu llwyddiannau Cymru ac archwilio ein dull blaenllaw sy'n seiliedig ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol a'n hymrwymiadau uchelgeisiol sero-net a dim gwastraff.

Mae cydweithio wrth wraidd y digwyddiadau Hotspot hyn ac roedd Hotspot Economi Gylchol Cymru yn gyfle unigryw i adeiladu a chryfhau partneriaethau yng Nghymru a chyda chenhedloedd a rhanbarthau eraill. Roedd y cyflwyniadau a'r trafodaethau yn pwysleisio nid yn unig bwysigrwydd hanfodol yr economi gylchol, ond hefyd y rhan y gall ei chwarae wrth gyflawni pontio teg a sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu gadael ar ôl, ein bod yn tyfu ein heconomi werdd, a sicrhau bod ein cymunedau'n rhannu'r manteision wrth inni weithio i gyflawni ein nodau hinsawdd.

Arddangoswyr yn Hotspot Economi Gylchol Cymru:

  • ARCS

    Mae ARCS yn darparu cefnogaeth arloesi cylchol arbennig i helpu busnesau i ddatgloi cyfleoedd economi gylchol. Mae’n cael ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n cael ei redeg gan Brifysgol Abertawe. Mae’r prosiect yn defnyddio arbenigedd academaidd i ddarparu hyd at 200 awr o ymchwil a chyngor 1-1 i gwmnïau yn ne-orllewin Cymru. Mae’n helpu i weithredu arferion cylchol, a galluogi busnesau i greu manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd â chyflawni eu huchelgeisiau sero net.

    https://www.swansea.ac.uk/science-and-engineering/research/engineering/arcs/
  • Benthyg

    Gwneud benthyca mor hawdd â phicio allan am dorth o fara Wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru rydym yn sefydliad nid-er-elw sy’n cefnogi rhwydwaith o gymunedau, ac yn eu helpu i ddatblygu model Llyfrgell Pethau sy’n gweithio iddyn nhw. Mae amrywiaeth o fodelau Llyfrgelloedd Pethau ar gael, o Loceri i lyfrgelloedd i ofodau a rennir i siopau'r stryd fawr. Rydym yn bodoli i gefnogi’r Economi Gylchol drwy leihau eitemau sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, annog pobl i fenthyca yn lle prynu a chadw’r ffioedd benthyca mor isel â phosibl er mwyn helpu i liniaru effaith tlodi. Yng Nghymru, hyd yma mae 15,000 o eitemau wedi cael eu benthyg, gan leihau 180,000kg o allyriadau carbon ac arbed £400,000 i gymunedau. Rydym yn rhannu ein harbenigedd, ein profiad a’n gwybodaeth ag Awdurdodau Lleol, cwmnïau, mudiadau nid-er-elw eraill a grwpiau cymunedol.

    https://www.benthyg-cymru.org/
  • Busnes Cymru

    Drwy ddarparu cyngor ac arweiniad a ariannwyd yn llawn, mae Busnes Cymru yn cefnogi'r rheiny a ddymuna dechrau, tyfu a rhedeg eu busnes eu hunain yng Nghymru. Gydag ymgynghorwyr profiadol, ystod gyfoethog o adnoddau digidol gan gynnwys pecynnau cymorth a gweminarau, yn ogystal â chymorth ynglŷn â gwasanaethau arbenigol megis allforio, buddsoddi, a hybu pobl ifanc i ddechrau busnes, mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor diduedd, annibynnol i bawb o fewn y gymuned fusnes, waeth pa mor newydd neu brofiadol yr ydynt. Ariannir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru.

    https://businesswales.gov.wales/cy
  • Siambrau Cymru

    Mae Siambrau Cymru yn sefydliad sydd â busnesau’n aelodau ohono. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo, i gysylltu, i gefnogi ac i roi gwybodaeth i fusnesau ar hyd a lled Cymru, ar yr un pryd â bod yn borth i fasnach fyd-eang. Mae un o’n pum piler strategol yn canolbwyntio ar dwf glân, gan fanteisio ar arbenigedd a thechnoleg arloesol ein haelodau i helpu sefydliadau sy’n aelodau a’r Siambr ei hun i fabwysiadu arferion cynaliadwy a ffynnu mewn economi carbon isel.

    https://cw-seswm.com/
  • Gweithredu ar Newid Hinsawdd

    Gweithredu ar Newid Hinsawdd ydym ni, menter gan Lywodraeth Cymru sy’n sbarduno newid am ddyfodol mwy cynaliadwy. Newid hinsawdd yw her fwyaf ein hoes, ac rydym yma i rymuso pobl o bob cwr o Gymru i weithredu. O ddewis opsiynau i leihau gwastraff, teithio’n fwy gwyrdd a chefnogi ffasiwn lleol a chynaliadwy, mae newidiadau bach yn cael effaith fawr. Ein cenhadaeth yw gwneud byw’n gynaliadwy yn hygyrch i bawb, gyda’r nod o gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050 a diogelu 30% o dir a môr Cymru erbyn 2030. Rydym yn dod â chymunedau at ei gilydd i ddysgu, i rannu ac i gymryd camau go iawn tuag at Gymru wyrddach a thecach. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a sicrhau dyfodol ffyniannus am genedlaethau i ddod.

    https://www.gweithreduarhinsawdd.llyw.cymru/
  • Yr Is-adran Ddiwylliant, Llywodraeth Cymru

    Cynhaliodd Llywodraeth Cymru stondin yn Hotspot yr Economi Gylchol i arddangos enghreifftiau o ble a sut mae'r sector diwylliant yn dychwelyd deunyddiau ac adnoddau i'r cylch cynhyrchu ar ddiwedd y defnydd ohonynt wrth leihau cynhyrchu gwastraff. Dangosodd y stondin hefyd werth a grym y sector diwylliant wrth adrodd straeon difyr a sbarduno sgyrsiau mewn cymunedau a'r cyhoedd yn ehangach ynghylch naratif yr economi gylchol. Roedd ein harddangosfa o wisgoedd gwych gan Theatr Clwyd wir yn galluogi dechrau sgyrsiau gan ei fod yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth ar weithgaredd, gan dynnu pobl i mewn i'r arddangosfa weledol. Nid yw'r economi gylchol yn gysyniad newydd fel y mae cyflwyniad Kathryn Ashill, Cymrawd y Dyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymateb i alwad y 'dyn hel rhacs'. Dangosodd yr hen Eifftiaid ddealltwriaeth ryfeddol o gadwraeth ac ailddefnyddio adnoddau, gan gyd-fynd ag egwyddorion economi gylchol fodern. Roeddent yn ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau fel pren, carreg a metel, lleihau gwastraff ac ymestyn hyd oes adnoddau gwerthfawr. Roedd yn beth cyffredin i ailddefnyddio beddau, tra bod eirch yn cael eu hail-arysgrifennu ar gyfer perchnogion newydd a dillad yn cael eu defnyddio i lapio mumïaid. Mae'r dull cyfannol hwn o reoli adnoddau yn amlygu eu cyfraniadau arloesol i egwyddorion yr economi gylchol. Roedd ein stondin yn ategu naratif 'Petha Benthyg Cymru', wrth i'r cynrychiolwyr weld enghreifftiau pellach o'r fenter ar waith mewn llyfrgelloedd cyhoeddus.

  • Cyngor Gwynedd

    Bu Cyngor Gwynedd yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth yr Her Ysgolion Cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu ysgol a chyfleusterau cymunedol newydd ar safle Ysgol Bontnewydd ger tref Caernarfon yng ngogledd orllewin Cymru. Bydd datblygiad cyffrous yn y Bontnewydd yn integreiddio addysg a’r gymuned mewn cyfleuster sy’n dangos sut y gellir lleihau effaith amgylcheddol y cylch bywyd carbon yn sylweddol a, chyda chadwraeth ynni a chynhyrchu cynaliadwy, y gall yr adeilad fod yn ddi-garbon yn ei weithrediad. Rydym yn anelu at dargedau carbon isel o 350kg/m2 o garbon ymgorfforedig yn yr adeilad newydd, sef targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2030. Byddem yn gwireddu hyn drwy ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau adeiladu megis y brics, llechi a’r coed o hen adeilad ysgol Fictoraidd ym Mangor sydd yn cael ei ddad adeiladu. Bydd ailddefnyddio deunyddiau cladin yn integreiddio'r adeilad i'w amgylchedd ac yn dathlu treftadaeth ddiwydiannol yr ardal.

    https://www.gwynedd.llyw.cymru/
  • Eco-Sgolion

    Mae Eco-Sgolion Cymru (sy’n cael ei reoli gan Cadwch Gymru’n Daclus) yn ymgysylltu â dros 90% o ysgolion Cymru i gefnogi dysgwyr i fod yn gyfrifol am eu hysgol, eu cymuned a’u hamgylchedd ac i wneud newidiadau i gael dyfodol mwy cadarnhaol. Mae defnyddio adnoddau mewn ffordd gylchol yn rhan hanfodol o’r rhaglen ac mae ein hysgolion wedi defnyddio arloesedd gwych i ddilyn yr hierarchaeth gwastraff a lleihau eu heffaith. Dewch i ymweld â ni i weld enghreifftiau ysbrydoledig o rai o ysgolion Cymru ac i ddysgu sut rydym yn arwain drwy esiampl i ysbrydoli ein hysgolion i gymryd camau pellach at ddyfodol cynaliadwy. Mae Eco-Sgolion yn fenter fyd-eang a dyma raglen addysg amgylcheddol fwyaf y byd, sy’n dathlu 30 mlynedd eleni.

    https://keepwalestidy.cymru/eco-schools/cy/
  • FareShare Cymru

    Cafodd FareShare Cymru ei sefydlu yn 2010 ac mae’n danfon bwyd sydd dros ben, sy’n iawn i’w fwyta ac a allai fynd yn wastraff fel arall, i elusennau ac i grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru. Heddiw, mae FareShare Cymru wedi dosbarthu tunelli o fwyd dros ben i rwydwaith o grwpiau a mudiadau ar hyd a lled Cymru sy’n darparu bwyd a gwasanaethau hanfodol eraill i bobl mewn angen.

    https://fareshare.cymru/cy/
  • FBB

    Ffederasiwn y Busnesau Bach yw prif sefydliad y DU ar gyfer busnesau bach a'r hunangyflogedig. Mae FSB yn sefydliad nid er elw gyda'r nod datganedig o helpu busnesau bach i gyflawni eu huchelgeisiau. Mae'r FSB yn sicrhau bod llais busnesau bach yn cael ei glywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol yn llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal ag ar lefel llywodraeth y DU yn San Steffan. Yn ogystal â darparu llais cryf unedig i fusnesau bach, mae'r FSB yn cefnogi ei aelodau gydag ystod o fuddion unigryw, gan gynnwys cymorth cyfreithiol a chyflogaeth, adfer dyledion, a gostyngiadau ar wasanaethau allweddol i helpu busnesau yn ymarferol o ddydd i ddydd. Mae'r FSB hefyd yn cynnal digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru a'r DU.

    https://www.fsb.org.uk/membership/fsb-regions-and-nations/fsb-wales.html
  • Ffilm Cymru Wales

    Ffilm Cymru Wales yw asiantaeth datblygu ffilm Cymru ac mae ganddo raglen Cymru Werdd i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol yn y sector ffilm a theledu. Mae Media Cymru yn Gonsortiwm sy’n rhannu’r un nod – troi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb byd eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf gwyrdd ac economaidd teg. Mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi diwydiannau creadigol Cymru. Mae Ffilm Cymru Wales, Media Cymru a Cymru Greadigol yn bartneriaid yn Screen New Deal: Cynllun Trawsnewid i Gymru. Un o brif flaenoriaethau’r map hwn yw creu diwydiant cylchol drwy ailddefnyddio deunyddiau ac asedau cynyrchiadau. Mae’r Cynllun hefyd yn tynnu sylw at ddull cylchol yng nghyswllt bwyd, drwy flaenoriaethu cyflenwyr lleol, opsiynau carbon is, a lleihau gwastraff. Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan Gronfa Gwyrddu’r Sgrin ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu sy’n cael eu harwain gan Ffilm Cymru Wales gyda Media Cymru.

    https://ffilmcymruwales.com/cy
  • Gweinyddiaeth Materion Economaidd Gogledd Rhine-Westphalia

    Mae Bord Gron yr Economi Gylchol yn dod â rhanddeiliaid at ei gilydd o’r gadwyn gwerth gyfan sy’n ymwneud â’r Economi Gylchol. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau ymchwil, prifysgolion, cymdeithasau, siambrau, rhanbarthau dinesig, sefydliadau a mentrau, yn ogystal â Gweinyddiaeth Materion Economaidd a Gweinyddiaeth Materion Amgylcheddol Gogledd Rhine-Westphalia.

    https://www.zirkulaere-wertschoepfung-nrw.de/
  • CNC

    Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd. Mae ein gwaith i ddiogelu ac i wella amgylchedd Cymru yn effeithio ar bopeth pwysig – ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a’n dyfodol. Ein cenhadaeth yw canolbwyntio ein hangerdd a’n gweithredu ar y cyd tuag at y canlynol: adferiad natur, y gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, lleihau llygredd drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

    https://naturalresources.wales/?lang=cy
  • Natural UK

    Natural UK Ltd yw’r cwmni casglu gwastraff clinigol / glanweithiol annibynnol mwyaf yng Nghymru. Mae gan Natural UK safle trin amgen cwbl drydanol ar gyfer gwastraff clinigol heintus peryglus (Cod EWC 18 01 03*) sy’n darnio ac yn sterileiddio gwastraff clinigol. Mae Natural UK wedi bod yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar brosiect Menter Ymchwil Busnesau Bach sy’n canolbwyntio ar yr Economi Gylchol a datgarboneiddio. Nod y prosiect hwn yw adfer ac yna ailbrosesu’r cynhyrchion plastig untro sydd mewn gwastraff clinigol wedi’i sterileiddio mewn ymgais i greu Economi Gylchol ar gyfer ffrwd gwastraff a fyddai’n cael ei losgi fel arall. Mae gan Natural UK hefyd hawliau ecsgliwsif i NappiCycle Ltd, sef system trin unigryw ac arloesol i adfer cellwlos a phlastigau o wastraff clytiau a nwyddau anymataliaeth sydd wedi cael eu defnyddio.

    https://www.naturaluk.co.uk/
  • Caffi Trwsio Cymru

    Mae Caffi Trwsio Cymru yn agor ac yn cefnogi caffis trwsio yng Nghymru a thu hwnt Rydym yn sefydliad dielw sy’n ymroddedig i greu diwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio, i annog cymunedau sydd am weithio tuag at Economi fwy Cylchol. Mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r argyfwng cynyddol o dwf anghynaliadwy mewn tirlenwi a gwastraff. Ein Gweledigaeth ‘Cymdeithas sydd wedi’i grymuso i gydweithio i leihau gwastraff, rhannu sgiliau, a chryfhau ein cymunedau’

    https://repaircafewales.org/cy/
  • Revolution-ZERO

    Cafodd Revolution-ZERO ei sefydlu i fynd i’r afael â’r problemau enfawr a ddaeth i’w amlwg yn ystod y pandemig a oedd yn ymwneud â chadernid y gadwyn gyflenwi a’r gwastraff sy’n gysylltiedig â thecstilau meddygol untro gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, gynau llawfeddygon a gorchuddion theatr llawdriniaethau. Yn gyflym iawn rydym wedi dod yn arweinwyr byd-eang drwy gyfnewid tecstilau meddygol untro gyda dewisiadau amgen mwy diogel fyth y gellir eu hailddefnyddio. Mae’r rhain wedi cael eu hardystio i’r safonau rheoleiddio llymaf ac yn lleihau allyriadau carbon a gwastraff yn ddramatig ar yr un pryd ag arbed arian. Rydym yn tyfu’n gyflym yn y marchnadoedd GIG, preifat, deintyddol, gofal a milfeddygol yn y Deyrnas Unedig ac yn sefydlu ein presenoldeb rhyngwladol yn Ewrop. Ein cenhadaeth yw disodli tecstilau meddygol untro â dewisiadau amgen mwy effeithiol, economaidd a chynaliadwy.

    https://www.revolution-zero.com/
  • Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach

    Mae Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n ariannu ac yn cyflawni ‘Contractau Arloesi’ sy’n cael eu harwain gan her yng Nghymru. Mae’n meithrin cydweithrediad rhwng diwydiant, y byd academaidd, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddylunio, i ddatblygu ac i werthuso datrysiadau arloesol, cyffrous, newydd sy’n mynd i’r afael ag anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu yn y sector cyhoeddus lle nad oes datrysiad ar gael yn hawdd. Mae’n gweithio gyda chyrff yn y sector cyhoeddus i ddod o hyd i’r prif anghenion ym maes iechyd a’r sector cyhoeddus ehangach, gan ddatblygu’r cais gyda chefnogaeth a chymorth parhaus drwy gydol y broses. Mae perchnogion a chyflenwyr heriau llwyddiannus yn cael gwasanaeth cofleidiol llawn gan y Ganolfan, o lansiad cychwynnol y gystadleuaeth i reoli’r prosiect yn llawn a chymorth llywodraethu, i ddarparu datrysiadau sy’n seiliedig ar ganlyniadau ac sy’n gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau eraill maen nhw’n eu darparu’n cynnwys: Rheoli Prosiectau, Mentora a Hyfforddiant.

    https://sbriwales.co.uk/cy/
  • UniGreenScheme

    Mae cenhadaeth UniGreenScheme yn syml iawn. Rydym yn helpu prifysgolion y DU a'r diwydiant gwyddonol ehangach i leihau gwastraff a defnyddio adnoddau'n gynaliadwy i alluogi sefydliadau ymchwil i ffynnu mewn byd sy'n fwyfwy cyfyngedig o ran adnoddau. Rydym wedi profi o lygad y ffynnon yr anawsterau sy'n gysylltiedig â chael gwared ar offer labordy segur neu dros ben. Ar hyn o bryd, y llwybr mwyaf cyffredin ar gyfer gwaredu offer yw ... wel, gwaredu. Rydym yn cynnig dewis arall di-drafferth, mwy cynaliadwy. Trwy gynnig gwasanaeth lle rydym yn casglu, storio ac ailwerthu offer i'w ailddefnyddio, rydym yn atal gwaredu offer yn ddiangen - gan eich helpu i gyflawni eich targedau amgylcheddol trwy leihau eich ôl troed carbon a hyd yn oed gynhyrchu refeniw trwy gynnig cyfran o'r elw.

    https://www.unigreenscheme.co.uk/
  • Llywodraeth Cymru

    Mae Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Datblygu, Ymchwil ac Arloesi a all gyfrannu at greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Cymorth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) yw'r brand yr ydym yn ariannu llawer o'n gweithgaredd drwyddo. Mae'n agored i unrhyw sefydliad sydd â phrosiectau cymwys sy'n helpu i gyflawni'r cenadaethau yn ein Strategaeth Arloesi, gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae'r rhaglen (SFIS) yn cael ei defnyddio ar gyfer dyfarniadau grant, gweithgareddau caffael y sector cyhoeddus, cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol a gweithgaredd ymgynghori a chyfathrebu arbenigol. Ychwanegir at hyn gan Gyllid Economi Gylchol i fusnesau, a ddarperir gan y Tîm ar ran y portffolio Newid Hinsawdd. Bydd yn cefnogi sefydliadau i gynyddu'r defnydd o gynhyrchion wedi'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio, gan symud tuag at economi gylchol, sero-net. Rydym yn cydweithio â sefydliadau i rannu'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni gwaith Datblygu, Ymchwil ac Arloesi. Rydym yn annog sefydliadau i gyflawni "Rhagoriaeth Arloesi" gan ganolbwyntio ar weithgaredd sydd o fudd nid i'r economi yn unig, ond i'n dinasyddion a'n hamgylchedd.

    https://businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/datblygu-syniadau-ar-gyfer-busnes-cynhyrchion-neu-wasanaethau
  • Woodknowledge Wales

    Mae Woodknowledge Wales yn Gymdeithas Buddion Cymunedol annibynnol er budd y cyhoedd, sy'n cael ei llywodraethu gan fwrdd gwirfoddol. Rydym yn credu mewn creu a rhannu gwybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth a gwyddoniaeth. ‌Rydym yn gweithredu mewn ffordd dryloyw sy'n rhoi pwyslais ar gydweithredu. Mae ein cymuned sy’n cynnwys amrywiaeth o aelodau yn cefnogi ein gwaith, yn ymgysylltu'n weithredol ac yn cyfrannu at y genhadaeth hon. Credwn y gall y busnesau yn yr 'ecosystem' goedwigaeth, amaethyddiaeth a phren fod yn fwy cydnaws a chael eu hybu'n fwy pwrpasol i sicrhau mwy o werth cymdeithasol. Rydym yn sefydliad o blaid newid sy'n cael ei ysgogi gan effaith ac wedi'i ysbrydoli gan yr angen am newid dramatig i'n hamgylcheddau naturiol ac adeiledig i gefnogi datgarboneiddio cyflym. Ein gweledigaeth yw trawsnewid ein byd yn gymdeithas goedwig uchel ei gwerth. Mae gennym dystiolaeth bod coedwigaeth sydd wedi'i llunio'n dda yn darparu amwynder, yn lliniaru newid yn yr hinsawdd, yn dda i fioamrywiaeth, datblygiad amaethyddol, iechyd pridd, yn helpu i gyfrannu at aer a dŵr glân ac yn darparu adeiladau mwy effeithlon ac iachach. Mae ein holl waith yn cael ei yrru'n bwrpasol tuag at greu byd gwell heddiw, sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

    https://woodknowledge.wales/
  • Wool Insulation Wales

    Mae Wool Insulation Wales Ltd yn wneuthurwyr Rholiau Insiwleiddio’r Atig Thermol Truewool®, sy’n cael eu gwneud yn gyfan gwbl gyda gwlân pur Cymreig. Yn dilyn dros 10,000 o flynyddoedd o esblygiad, mae gwlân defaid yn dod i’r amlwg fel rhyfeddod naturiol, sy’n gallu inswleiddio yn hyd yn oed yr amodau mwyaf llym yng Nghymru. Mae’n brawf o ddyfeisgarwch byd natur bod defaid yn aros yn gynnes ac yn sych yng nghanol glaw mawr ein rhanbarth, diolch i’w cnu. Mae gwlân yn ddeunydd inswleiddio eithriadol, ac mae iddo nodweddion hygrosgopig sy’n rheoli tamprwydd a lleithder yn effeithiol. Ar ddiwedd ei oes ddefnyddiol fel inswleiddiad, mae modd dychwelyd Truewool® i’r ddaear drwy ei gompostio. Mae’n rhoi deunydd llawn maeth i’r pridd heb brosesau ailgylchu neu wahanu sy’n defnyddio llawer o ynni. Mae hyn yn golygu nad yw’n wastraff tirlenwi a'i fod yn hyrwyddo egwyddorion economi gylchol.

    https://woolinsulationwales.com/
  • WRAP

    Mae WRAP yn gorff anllywodraethol gweithredu amgylcheddol byd-eang sy’n trawsnewid ein systemau cynnyrch a bwyd i greu Byw Cylchol. Mewn byd lle ceir mwy a mwy o heriau amgylcheddol, mae WRAP yn esiampl o drawsnewid. Mae WRAP yn hyrwyddo symud tuag at economi gylchol, gan drawsnewid yn sylfaenol sut rydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn rheoli adnoddau. Drwy symud y tu hwnt i’r model ‘cymryd, gwneud, gwaredu’ traddodiadol, mae WRAP yn sbarduno patrwm newydd sydd â’r safon ‘lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu’. Nod uchelgeisiol WRAP yw trawsnewid o brosiectau peilot arloesol i sefydlu 'Byw Cylchol' fel norm cyffredinol, gan sicrhau nad yw creu gwerth yn gysylltiedig mwyach â defnyddio deunyddiau crai yn ddi-baid. Ein nod yw gosod yr hyn rydym yn ei alw yn ‘Byw Cylchol’ ar frig yr agenda ym mhob ystafell bwrdd a chartref, gan alluogi pobl i fyw eu bywydau o fewn un blaned.

    https://wrapcymru.org.uk/cy