Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Gaerdydd.

Lleoliadau Amrywiol

Ymweliadau Safle'r Economi Gylchol

Ar y diwrnod olaf, bydd y cynrychiolwr yn cael cyfle i gymryd rhan yn Ymweliadau Safle’r Economi Gylchol, lle bydd modd iddynt gael profiad ymarferol trwy ymweld â sefydliadau a busnesau sy’n bwrw ymlaen â’r economi gylchol yng Nghymru. Diwydiant, arloesi a chymunedau fydd y themâu, a bwriad pob ymweliad fydd arddangos menter neu drefniant cydweithredu arloesol lle defnyddir egwyddorion yr economi gylchol i gael effaith gadarnhaol ar bobl, cymunedau, sefydliadau a’r amgylchedd.

Gwybodaeth bwysig:

Bydd pob ymweliad safle yn dechrau o'r Ganolfan Griced Genedlaethol, o'r

maes parcio ger Giât 4, ddydd Mercher 9fed Hydref.

Gwybodaeth bwysig arall:

  • Gwisgwch esgidiau call sy'n gorchuddio'r bysedd traed, os gwelwch yn dda.
  • Cofiwch ddod â dŵr mewn potel ddŵr y gallwch ei hailddefnyddio.
  • Darperir cinio ar bob ymweliad safle.
  • Bydd PPE yn cael ei ddarparu pan fo angen.
  • Dylech gyrraedd y Ganolfan Griced Genedlaethol o leiaf 15 munud cyn yr amser a drefnwyd os gwelwch yn dda.
  • Ni chaniateir bagiau ar y bysiau. Bydd storio bagiau ar gael i gynadleddwyr (wedi'u storio ar risg y perchennog) yn y Ganolfan Griced Genedlaethol os oes angen.
  • Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda. Mae nifer o ymweliadau safle yn cynnwys elfennau o fod yn yr awyr agored - a bydd y rhain yn mynd yn eu blaen mewn tywydd glawog.

Mae'r ymweliadau safle yn boblogaidd, a bron wedi eu tanysgrifio yn llawn. Mae Ymweliad Safle 2 – Busnes Cylchol, yn llawn, ac Ymweliad Safle 1 - Ailgylchu yn llenwi'n gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru eich dewisiadau ar gyfer ymweliad safle, ond efallai y cewch eich rhoi ar restr aros os yw'r ymweliadau safle rydych wedi eu dewis yn llawn. Rydym yn gobeithio darparu ar gyfer pawb sy'n dymuno mynd ar daith, a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd llefydd yn agor i fyny.

Ymweliad Safle 1 – Ailgylchu

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 8:30

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 15:00

Bydd y daith hon yn canolbwyntio ar sut y gellir ailgylchu ac ail-ddefnyddio gwastraff domestig drwy ymweld â chanolfan ailgylchu o’r radd flaenaf sydd wedi’i lleoli ym Mro Morgannwg, a’r modd y mae hyn yn cyfrannu, yn gyntaf at ansawdd uchel a’r cyfraddau ailgylchu arweiniol yn fyd-eang yng Nghymru, ac yn ail, sut y gellir defnyddio gwastraff bwyd ar gyfer ynni a chynhyrchiad cnydau.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â:

Ymweliad Safle 2 – Busnes Cylchol

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 8:15

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 15:15

Bydd yr ymweliad safle Busnes Cylchol yn arddangos ychydig o’r ymchwil a’r gwaith arloesol, ymarferol y mae busnes ac academiaeth yn cydweithredu arnynt yng nghyd-destun modelau busnes cylchol. Bydd cynrychiolwyr yn cael taith o amgylch busnes a sefydliad academaidd sy’n gweithredu datrysiadau cylchol i ddatys problemau’r byd go iawn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd adnoddau a gwastraff.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â:

Ymweliad Safle 3 – Taith Gymunedol Gylchol Caerdydd

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 9:15

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 14:45

Bydd y daith yn atgyfnerthu dull cynaliadwyedd cymuned leol a sut y gall hyn hyrwyddo dull mwy cylchol o ymdrin â nwyddau a gwasanaethau, gan barhau i sicrhau bod rhanddeiliaid lleol yn elwa drwy gynhwysiant, mynediad at gyfleusterau, uwchsgilio a hyfforddiant, a chefnogi ffordd o fyw fwy cyfrifol yn gymdeithasol gan ddinasyddion.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â:

Ymweliad Safle 4 – Arloesedd Bwyd ac Ailddosbarthiad

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 8:30

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 14:45

Bydd y daith yn canolbwyntio ar gyfleoedd a buddion lleihau gwastraff bwyd, o ddatblygiad rhwydwaith ailddosbarthu effeithiol ar gyfer bwyd dros ben yn y gadwyn gyflenwi bwyd a lleihau gwastraff a sicrhau bod ystod eang o grwpiau cymdeithasol yng Nghymru yn cael budd i’w hiechyd a’u llesiant, i ymchwil o’r radd flaenaf er mwyn deall ymddygiad defnyddwyr a gwyddoniaeth bwyd, i wneud y gorau o fwyd gan sicrhau ei ddiogelwch ar yr un pryd.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â:

Ymweliad Safle 5 – Ail-ddefnyddio

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 9:15

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 14:45

Mae’r daith hon yn ymroddedig i integreiddio dull cynaliadwy a chylchol o gefnogi cymunedau lleol drwy ail-ddefnyddio, uwch-gylchu, atgyweirio ac adnewyddu deunyddiau. Mae hyn yn cynhyrchu cyfleoedd i ddinasyddion drwy fynediad fforddiadwy at nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal ag uwch-sgilio unigolion, a galluogi cymuned drwy fuddion ailgylchu ac ail-ddefnyddio, eol, economi leol gref ac enw da fel lle deniadol, diogel, amrywiol yn ddiwylliannol a chydlynol i fyw, gweithio ac ymlacio.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â:

Ymweliad Safle 6 – Adeiladu:

Mae'r ymweliad safle hwn yn gadael y Ganolfan Griced Genedlaethol am: 8:15

Mae'r ymweliad safle hwn yn dychwelyd i'r Ganolfan Griced Genedlaethol am: 15:30

Yn ystod y daith hon byddwn yn dysgu sut y gellir cydosod dulliau adeiladu cynaliadwy i brosiectau adeiladu hygyrch, cylchol a chynhwysol, er mwyn sicrhau bod adeiladau yn bodloni gofynion newydd effeithiolrwydd adnoddau, insiwleiddio, rhwyddineb adeiladu a fforddiadwyedd.

Ar y daith hon, bydd mynychwyr yn ymweld â: