Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Aled Guy

Aled Guy - Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Net Sero, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Aled Guy yn Ddaearyddwr Siartredig ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, gydag arbenigedd cryf ac yn teimlo'n angerddol am gynaliadwyedd. Ar hyn o bryd mae'n arwain ac yn gweithredu'r hyn y gellir ei gylfawni yn y strategaeth "Darparu GIG Sero Net" ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), sefydliad annibynnol sy'n eiddo i GIG Cymru ac yn cael ei gyfarwyddo ganddo. Yn ei rôl, mae Aled yn gwasanaethu fel yr arweinydd sero-net lefel bwrdd ar gyfer Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a thimau rhanbarthol y GIG. Mae'n datblygu ac yn gweithredu dull NWSSP o ddatblygu cynaliadwy ac yn darparu cyngor proffesiynol uwch.

Mae Aled yn ymgysylltu ac yn cydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau dull cynhwysfawr o gynaliadwyedd a niwtraliaeth carbon, gan alinio'r ymdrechion hyn â gwerthoedd a nodau corfforaethol y sefydliad.

Mae'n gyfathrebwr medrus sy'n gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid i yrru gwelliannau ynni a chynaliadwyedd. Mae Aled yn cydweithio â phob tîm caffael ledled Cymru i integreiddio cyfleoedd datgarboneiddio i'w cynlluniau cyrchu a'r gadwyn gyflenwi, gan eu cysylltu â'r Economi Sylfaenol a Chylchol.

Mae gan Aled hefyd brofiad o greu strategaethau Economi Gylchol a Llythrennedd Carbon, sydd wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau corfforaethol ehangach. Mae'n gweithio'n agos gyda thimau caffael i sicrhau gwerth am arian a chynnwys cymalau budd cymunedol. Cyn ei waith gyda'r GIG, roedd Aled yn cael ei gyflogi gan un o landlordiaid tai cymdeithasol cofrestredig mwyaf Cymru.