Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Alun Harries

Alun Harries - Rheolwr Elusen, Wastesavers

Ymunodd Alun Harries ag Wastsavers Charitable Trust and Recycling Limited fel eu Rheolwr Elusen ym mis Ionawr 2019, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r elusen wedi tyfu o 3 siop ailddefnyddio i 10, ac wedi dechrau cynnig gwasanaethau ychwanegol i ehangu ei waith ailddefnyddio ac atgyweirio. Mae'r rhain yn cynnwys 2 gaffi atgyweirio, 2 lyfrgell o bethau a Llyfrgell Cewynnau. Mae'r twf hwn wedi golygu bod ochr elusennol y busnes wedi tyfu o 16 aelod o staff i 54, a daeth 14 ohonynt yn wreiddiol i WCTL fel gwirfoddolwyr. Cafodd Wastesavers ei sefydlu yn 1986 fel mudiad gwirfoddol bach. Ei brif nod oedd codi ymwybyddiaeth drwy addysg am ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau. Ers hynny, mae wedi tyfu'n sylweddol i fod yn grŵp ailgylchu trydydd sector blaenllaw yng Nghymru.

Mae Alun wedi graddio mewn Menter Gymdeithasol Gynaliadwy ac wedigweithio yn y trydydd sector ers dros 15 mlynedd.