Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Andrew Martin

Andrew Martin - Pennaeth Bwyd, Diod, a Thechnoleg Amaeth, AMRC Cymru

Andrew Martin yw Pennaeth Bwyd, Diod, a Thechnoleg Amaeth AMRC Cymru. Gyda dros ddau ddegawd o brofiad, arbenigedd Andrew yw manteisio ar dechnolegau newydd i wella cynhyrchiant gan ysgogi'r diwydiant sero net. Fel arweinydd allweddol yn AMRC Cymru, mae Andrew wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu a darparu atebion arloesol sy'n gwella effeithlonrwydd, cystadleurwydd a chynaliadwyedd i fusnesau a chadwyni cyflenwi ar draws diwydiannau bwyd a diod Cymru. Mae'n angerddol am feithrin ecosystem fusnes ffyniannus sydd nid yn unig yn sbarduno twf economaidd ond sydd hefyd yn blaenoriaethu'r broses o ddatblygu talent.

Y tu hwnt i'w rôl yn AMRC Cymru, mae Andrew yn cymryd rhan weithredol wrth lunio dyfodol y diwydiannau bwyd a thechnoleg amaeth drwy waith ymchwil, datblygu a pholisi. Fel Cadeirydd cymuned ymarfer Catapult y DU ym maes bwyd a diod, mae'n rhannu ei arbenigedd a'i fewnwelediadau ar arloesi digidol, cynaliadwyedd a phartneriaethau clwstwr gydag arweinwyr a rhanddeiliaid y diwydiant. Yn ogystal, mae wedi ymrwymo i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a moesegol, gan wasanaethu fel Uwch Feirniad ar gyfer Gwobrau Amrywiaeth Cymru i ysgogi Amrywiaeth mewn busnesau yng Nghymru.