Cynghorydd Andrew Morgan - Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Arweinydd CLlLC
Yntau wedi'i eni a'i fagu yn Aberpennar, mynychodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE Ysgol Gynradd y Darren-las, Ysgol Gyfun Isaf Bryngolwg ac Ysgol Gyfun Aberpennar cyn dod yn Brentis yn adran dai Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon, cyn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nes ymlaen.
Safodd e gyntaf yn Ymgeisydd Etholiadol ar gyfer Ward Aberpennar yn 2004 a chafodd ei ethol, gan symud ymlaen i fod yn Aelod o Gabinet ar faterion y Priffyrdd yn 2008 ac yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2014, swydd mae e'n parhau i'w gwneud heddiw. Daeth e'n Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddiwedd 2019.