Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
Dechreuodd Andrew ar ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Is-adran yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth ym mis Ebrill 2024 ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Trysorlys a'r Cyfansoddiad a Chyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol.
Cyn hynny, Andrew oedd Cyfarwyddwr Arweiniol Llywodraeth Cymru ar yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac ar lefel gorfforaethol, roedd yn Bennaeth y Proffesiwn Polisi.Ymunodd Andrew â Llywodraeth Cymru yn 2012, gan weithio i ddechrau ar raglenni'r UE, ac wedyn fel Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Môr.
Cyn dod i Gymru, Andrew arweiniodd y gwaith o sefydlu gwasanaeth datblygu gwledig cenedlaethol newydd Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) y DU. Rhwng 2006 a 2011, bu Andrew yn gweithio yn Ne-orllewin Lloegr, yn gyntaf yn Swyddfa'r Llywodraeth fel Dirprwy Gyfarwyddwr Rhanbarthol â chyfrifoldeb dros ddatblygu cynaliadwy, ac yna fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni a Phartneriaethau yn Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol De-orllewin Lloegr.
Yn gynharach yn ei yrfa, bu Andrew yn gweithio yn Llywodraeth y DU (y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yna Defra) yn Llundain, lle bu mewn nifer o swyddi, gan gynnwys Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol.