Angela Spiteri - Uwch Reolwr Ymgyrch, WRAP Cymru
Yn rhinwedd ei swydd fel Uwch Reolwr Ymgyrchoedd Cymru yn WRAP, mae Angela yn datblygu ac yn arwain strategaethau cyfathrebu effeithiol, gan ddefnyddio'r syniadau diweddaraf i ysbrydoli newid ymhlith cynulleidfaoedd targed allweddol. Angela hefyd sy'n arwain ymgyrch arwyr y genedl, Bydd Wych Ailgylcha. Gyda'r prif nod osicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd am ailgylchu a pharatoi'r ffordd ar gyfer dod yn genedl ddiwastraff, mae ymchwil ddiweddar yn datgelu bod yr ymgyrch yn sbarduno newid cadarnhaol mewn ymddygiad ac agweddau yng Nghymru.
Gyda 15 mlynedd o brofiad o lunio, rheoli a gweithredu ymgyrchoedd newid ymddygiad a arweinir gan ymchwil yn y maes cynaliadwyedd, mae gan Angela brofiad ym maes ailgylchu, atal gwastraff bwyd, ailddefnyddio ac ymddygiadau o ran teithio llesol.