Gwybodaeth Ymarferol
Hoffech chi arddangos yn Hotspot yr Economi Gylchol?
Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd arweinwyr y byd diwydiant, arloeswyr a llunwyr polisïau o bob cwr oGymru, Ewrop a’r byd i archwilio ac arddangos y datblygiadau a’r arferion diweddaraf yn yr economi gylchol. Pe baech yn arddangos yn y digwyddiad, byddai eich sefydliad yn cael cyfle unigryw i wneud y canlynol:
- Dangos eich ymrwymiad i gynaliadwyedd a’r economi gylchol.
- Rhwydweithio gyda rhanddeiliaid hollbwysig o amryfal sectorau.
- Sicrhau amlygrwydd a chydnabyddiaeth ar gyfer eich atebion arloesol.
I wneud cais am le arddangos, CLICIWCH YMA a chyflwynwch y ffurflen erbyn dydd Gwener 6 Medi.