Bettina Gilbert - Pennaeth yr Economi Gylchol, WRAP
Bettina yw Pennaeth Economi Gylchol WRAP ac mae'n gyfrifol am weithio gyda busnesau a'r sector cyhoeddus i gynyddu faint o ddeunydd sy'n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu yn ôl i economi'r byd a lleihau'r ddibyniaeth ar ddeunyddiau crai. Yn y rôl hon, mae'n gyfrifol am ddylunio a darparu cymorth technegol a mecanweithiau buddsoddi i oresgyn methiannau'r farchnad, ysgogi arloesedd, a chreu economi gylchol gynaliadwy sy'n effeithlon o ran adnoddau.
Ers ymuno â WRAP yn 2010 mae Bettina wedi arwain rhaglenni cymorth busnes a grantiau yn y DU a thu hwnt, gan weithio gyda sefydliadau ym meysydd tecstiliau, rheoli adnoddau, bwyd a diod, gweithgynhyrchu a'r sector cyhoeddus. Gyda chefndir mewn ymchwil i'r farchnad a rheoli gwybodaeth, mae gan Bettina 20 mlynedd o brofiad mewn dylunio a rheoli rhaglenni sy'n darparu cymorth technegol a mecanweithiau ariannol i fusnesau ac MBA o Brifysgol Warwick.