Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Bryony Bromley

Bryony Bromley - Rheolwr Addysg, Cadwch Gymru'n Daclus

Mae Bryony Bromley yn gweithio fel Rheolwr Addysg yn Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n rhedeg y rhaglen Eco-Sgolion rhyngwladol yng Nghymru. Mae gan Bryony gefndir mewn Gwyddor ac Addysgu Amgylcheddol ac mae wedi defnyddio ei hangerdd yn y ddau faes i hyrwyddo gwaith Eco-Sgolion ymlaen yng Nghymru; gan ymgysylltiad a dros 90% o ysgolion Cymru, sy'n golygu ei bod yn brysur iawn. Mae'n credu'n gryf mewn arwain trwy esiampl o ran gwneud dewisiadau ar gyfer ffordd o fyw mwy cynaliadwy a defnyddio ysbrydoliaeth gadarnhaol i drafod gyda a grymuso dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd.

Ar lefel bersonol mae Bryony yn teimlo'n angerddol am gefnogi technegau ffermio organig, adfywiol ac mae yn fegan ers dros 20 mlynedd. Sefydlodd fenter gwisg ysgol ail-law yn ei hysgol leol ac mae'n ceisio dod â chysyniadau Economi Gylchol i bob rhan o fywyd cartref a chymuned. Mae ganddi ddwy ferch sy'n mynychu Eco-Sgolion lleol ac mae'n mwynhau treulio unrhyw amser rhydd sydd ganddi yn ei gardd wyllt neu gerdded ei chŵn.