Catrin Finch
Catrin Finch, sy’n hanu o Lanon ar arfordir gorllewinol Cymru yw’r delynores glasurol fwyaf hyfedr a dawnus ei chenhedlaeth. Gyda gorchestion cynnar aruthrol a hyfforddiant clasurol dwys yn sail iddi, bu’n gwasanaethu fel Telynores Frenhinol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ei hugeiniau cynnar. Mae Catrin wedi perfformio gyda llawer o brif gerddorfeydd y byd; mae hi hefyd wedi cael llwyddiant yn y siartiau gyda’i pherfformiad rhif 1 o Amrywiadau Goldberg Bach, ac wedi recordio ar gyfer labeli clasurol mwyaf blaenllaw’r byd. Mae chwilfrydedd di-ben-draw ac ysbryd anturus Catrin wedi ei harwain i fydysawd cyfochrog o lwyddiant cerddorol, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediad â’r pencampwr ar y kora Seckou Keita. Enillodd y ddau y wobr am y Grŵp Gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn 2019.
Yn ei gyrfa glasurol, mae Catrin Finch wedi perfformio gyda llawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Ffilharmonig Efrog Newydd, y Ffilharmonig Frenhinol, y Boston Pops, Academi St Martin in the Fields a Cherddorfa Siambr Lloegr. Mae hi wedi ymddangos ar lwyfannau brif wyliau cerddoriaeth glasurol y byd, gan gynnwys Salzburg, Caeredin, Spoleto a MDR Musiksommer yn Leipzig ac wedi teithio ledled Ewrop, gogledd a de America a’r Dwyrain Canol.
Mae Catrin wedi perfformio’n helaeth ledled yr Unol Daleithiau, De America, y Dwyrain Canol, Asia, Awstralia ac Ewrop, fel unawdydd, a hefyd yn ymddangos gyda llawer o gerddorfeydd gorau’r byd, ac mae wedi recordio i lawer o brif gwmnïau recordio rhyngwladol, gan gynnwys Universal Records, Deutsche Grammophon, EMI a Sony Classical, yn unigol a gydag artistiaid nodedig fel Syr Bryn Terfel, Syr James Galway a Julian Lloyd-Webber.
Mae Catrin, sy’n artist amryddawn, di-ofn ac arloesol, yn parhau i archwilio a gwthio ffiniau ei chelf gyda chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig gydag artistiaid fel y meistri kora, Seckou Keita (Senegal) a Toumani Diabaté (Mali), a’r pencampwyr joropo cowboi o Golombia, Cimarron, ac yn fwyaf diweddar, y feiolinydd clasurol enwog o Iwerddon, Aoife Ní Bhriain.
Ar hyn o bryd, Catrin yw Pennaeth y Delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol, Llundain.