Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Dot Davies

Dot Davies - Chyflwynydd, BBC Cymru Wales

Mae Dot wedi gweithio am sawl blwyddyn gyda BBC Wales. ITV Wales, S4C, BT Sport, Radio 5 Live a Radio 4, ac mae nawr yn cyflwyno Sioe Frecwast BBC Radio Wales. Mae wedi cyflwyno rhaglenni Cwpan Rygbi'r Byd ar gyfer ITV a'r Chwe Gwlad ar gyfer y BBC.A hithau'n siarad Cymraeg yn rhugl, dechreuodd gyrfa Dot ym maes chwaraeon, fodd bynnag cafodd ei phroffil rhwydwaith ei ddyrchafu gyda'i phresenoldeb yn Wimbledon ar gyfer y BBC am sawl blwyddyn. Mae ei rôl yn cyflwyno ochr yn ochr â John McEnroe ar 6love6 yn uchafbwynt arbennig!Ers hynny, mae wedi mentro i faes materion cyfoes, gan gyflwyno i Radio Wales, Radio Cymru a Radio 4, ynghyd â rhaglen flaenllaw Y Byd ar Bedwar S4C a Wales This Week ITV. Dangoswyd ei gallu amryddawn ymhellach drwy gyflwyno'r Eisteddfod Genedlaethol i S4C yn 2022 o'i sir enedigol yng Ngheredigion, ac mae ganddi lawer mwy o brosiectau cyffrous fydd yn cael eu datgelu dros y misoedd nesaf. Cafodd Dot ei magu ar fferm yng ngorllewin Cymru, ac mae ei hoffter o'r awyr agored yn parhau wrth iddi fagu eu 3 o blant.