Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Eluned Morgan

Eluned Morgan AS - Prif Weinidog Cymru

Cafodd Eluned Morgan ei geni ym 1967 yn Nhrelái, Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn ysgol gyfun Gymraeg Glantaf. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg yr Iwerydd, un o golegau Unedig y Byd. Enillodd radd mewn Astudiaethau Ewropeaidd o Brifysgol Hull. Bu'n gweithio fel ymchwilydd i S4C, Teledu Agenda a'r BBC.

Yn 27 oed, dechreuodd gyrfa wleidyddol Eluned pan gafodd ei hethol fel yr aelod ieuengaf o Senedd Ewrop ym 1994. Hi oedd y bumed fenyw i gael ei hethol i swydd wleidyddol llawn amser yn holl hanes Cymru, a’r gwleidydd llawn amser cyntaf yng Nghymru i gael babi tra roedd yn aelod seneddol. Cynrychiolodd Gymru ar ran y Blaid Lafur o 1994 i 2009. Yn y rôl hon bu’n llefarydd y Blaid Lafur ar ddiwydiant, gwyddoniaeth ac ynni ac yn llefarydd ar ran 200 o aelodau’r Grŵp Sosialaidd ar faterion Rheoli Cyllidebau. Hi oedd awdur y Papur Gwyrdd ar ynni ar ran Senedd Ewrop ac arweiniodd drafodaethau'r Senedd ar y Gyfarwyddeb Trydan lle sicrhaodd hawliau newydd i ddefnyddwyr a mynnu bod Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd yn mynd i'r afael â materion tlodi tanwydd.

O ddiwedd 2009 tan fis Gorffennaf 2013, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cenedlaethol Cymru SSE (SWALEC), un o gwmnïau ynni mwyaf y DU. Yn ystod 2013-2016, gwasanaethodd Eluned Morgan fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Tramor rhwng 2014 a 2016. Fe'i hanrhydeddwyd yn arglwyddes yn 2011, a'i henw ffurfiol yw'r Farwnes Morgan o Drelái.

Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Ym mis Tachwedd 2017 cafodd Eluned ei phenodi'n Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ar 13 Rhagfyr 2018 cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol a bu'n gwneud y rôl hon nes iddi ddod yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg ar 8 Hydref 2020. Penodwyd Eluned yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021, a cafodd ei hailbenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 21 Mawrth 2024.

Fe ddaeth Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru ar 6 Awst 2024.