Cynghorydd Huw Thomas - Arweinydd Cyngor Caerdydd
Y Cynghorydd Huw Thomas yw Arweinydd Cyngor Caerdydd - swydd y mae wedi’i dal ers Mai 2017. Fel Arweinydd un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, mae Huw a’i weinyddiaeth wedi ymrwymo i hybu Caerdydd ‘Gryfach, Decach, Wyrddach’ drwy hyrwyddo twf cynhwysol a chyflawni prosiectau mawr sy’n cynnwys rhaglen adeiladu ysgolion gwerth £300m, adeiladu 4,000 o dai Cyngor newydd erbyn 2030, datblygiadau seilwaith trafnidiaeth sylweddol ac adeiladu Arena Dan Do 17,000-sedd newydd ym Mae Caerdydd. Mae Huw wedi cynrychioli’r Sblot yng Nghaerdydd fel Cynghorydd Llafur ers 2012 ac mae wedi dal nifer o swyddi yn y Cabinet ers dod yn Arweinydd. Mae’n cadeirio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a hefyd yn gyfarwyddwr ar Millennium Stadium Plc. Mae'n aelod o Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru ac yn Is-gadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC). Yn ogystal, mae'n un o Lefarwyr Economi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn aelod o’r Cabinet Dinasoedd Craidd ochr yn ochr â chynrychiolwyr o ddinasoedd mawr eraill yn y DU.Mae Huw yn siaradwr Cymraeg rhugl. Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen cyn cwblhau gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.Mae wedi gweithio ym maes TG, trafnidiaeth, ac yn fwy diweddar mewn datblygu rhyngwladol, fel Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru. I ffwrdd o’r maes gwleidyddol, mae Huw yn gefnogwr chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau, yn mwynhau’r awyr agored ac yn feiciwr brwd.Bu’n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru ac mae’n cefnogi timau pêl-droed Aberystwyth a Chymru.