Yr Athro Jas Pal Badyal - Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
Cafodd yr Athro Jas Pal Badyal FRS raddau BA/MA a PhD o Brifysgol Caergrawnt; ble bu wedyn yn Gymrodor Coleg y Brenin a Chymrodoriaeth Oppenheimer. Yna symudodd i Brifysgol Durham i ddarlithio ac ar hyn o bryd mae yn athro.Mae ei ymchwil wedi arwain at 3 cwmni technoleg arwyneb llwyddiannus. Yn 2023, cafodd ei benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru. Mae'r rôl hon yn cynnwys pennaeth proffesiwn gwyddoniaeth a thechnoleg ledled Cymru, a darparu cyngor gwyddonol i'r Prif Weinidog, y Cabinet, a Llywodraeth Cymru yn ehangach.