Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Kersty Hobson

Dr Kersty Hobson - Darllenydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Caerdydd

Mae Kersty yn wyddonydd cymdeithasol amgylcheddol, ac yn Ddarllenydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ers diwedd y 1990au mae hi wedi bod yn ymchwilio, cyhoeddi, addysgu a siarad am heriau cymdeithasol cynaliadwyedd, yn enwedig o ran newid ymddygiad aelwydydd a defnyddwyr. Dros y degawd diwethaf mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar yr Economi Gylchol, ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth am bosibiliadau a chyfyngiadau'r 'defnyddiwr cylchol'. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar brosiect Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol 5 mlynedd o'r enw 'BuildZero', a fydd yn archwilio atebion i ddarparu stoc adeiladu yn y dyfodol heb echdynnu deunydd, sy'n ddi-garbon ac yn ddiwastraff, gan ystyried derbynioldeb cymdeithasol ac ystyriaethau hyfywedd economaidd.