N’famady Kouyaté
Enillydd Cystadleuaeth Talent sy'n Datblygu Glastonbury 2023, mae N’famady Kouyaté yn gerddor ifanc, deinamig oGini (Conakry), wnaeth adleoli i Gaerdydd, Cymru, yn 2019. Mae'n chwaraewr offerynnau dawnus wnaeth gyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon yn 2019/20 gyda'i ddehongliad modern o ganeuon a rhythmau traddodiadol Mandingue Gorllewin Affrica, gan gefnogi Gruff Rhys gyda'i daith ar gyfer yr albwm Pang!. Prif offeryn N'famady yw'r balaffon - seiloffon pren traddodiadol sy'n ganolog i ddiwylliant Gorllewin Affrica, a threftadaeth griot/djeli ei deulu. Yng Ngini, sefydlodd ‘Les Héritiers du Mandingue,’ grŵp modern-traddodiadol sydd wedi perfformio'n helaeth ar hyd a lled Gorllewin Affrica.
Yn y DU, mae N'famady yn rhoi perfformiadau unigol a chyda band llawn, gan gyfuno cerddoriaeth Affricanaidd Mandingue gyda dylanwadau jazz, pop, indi a ffync y gorllewin. Mae ei ensemble yn cynnwys balaffon, allweddellau, drymiau, djembe, gitâr, gitâr fas, kora, doundoun, congas, sacsoffon, trwmped a calabash. Mae ei berfformiadau yn creu awyrgylch fywiog, gan swyno cynulleidfaoedd gyda'i frwdfrydedd heintus.
Yn ystod cyfnod y clo 2020, fe wnaeth N'famady gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ar-lein a chwaraeodd mewn gig lle roedd gofyn cadw pellter cymdeithasol yng Ngharnifal Biwt ym Mae Caerdydd. Yn ystod haf 2021 perfformiodd ei fand yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Gŵyl Llangollen Fringe a hefyd Gŵyl y Dyn Gwyrdd, lle roeddent yn brif grŵp ar lwyfan Chai Wallah.
Rhyddhaodd N'famady ei EP cyntaf ym mis Gorffennaf 2021, gafodd ei recordio yn y Rockfield Studios chwedlonol, ac a oedd yn cynnwys cyfraniadau gwesteion gan Gruff Rhys, Lisa Jên Brown a Kiph Scurlock. Mae'r EP yn cyfuno caneuon traddodiadol Gini gyda geiriau Cymraeg a cherddoriaeth offerynnol fodern yn cael ei pherfformio gan fand deg aelod.
Yn 2022, dechreuodd ar daith 20 diwrnod yn y DU a pherfformiodd mewn amrywiol wyliau. Yn 2023, teithiodd N'famady yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys ymddangos yng ngŵyl South by Southwest, a chwaraeodd ym mhrif wyliau yn y DU megis Latitude a Shrewsbury Folk. Bellach yn gweithio ar ei albwm gyntaf, sydd i'w rhyddhau yn ddiweddarach yn 2024, mae N'famady yn parhau i godi yn un o sêr y sîn gerddoriaeth.