Dr Nadine Leder - Darlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Mae Dr Nadine Leder yn Ddarlithydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei harbenigedd ymchwil ym maes yr Economi Gylchol, gyda ffocws ar Weithrediadau Cylchol, Modelau Busnes Cylchol, a Chadwyni Cyflenwi Cylchol. Mae Nadine wedi cyfrannu at amrywiol brosiectau ymchwil, gan gynnwys prosiect FACET Interreg, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Ewrop, a oedd yn archwilio gweithrediad datrysiadau cylchol yn y sectorau Twristiaeth a Lletygarwch ar draws rhanbarthau arfordirol yn Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Lloegr.
Mae ei hymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar leihau deunyddiau pecynnu plastig untro, yn benodol drwy ddefnyddio cwpanau y gellir eu hailddefnyddio a bagiau agregol. Mae hi'n ymchwilio ymhellach i'r gallu i ymestyn y model busnes sy'n gysylltiedig â chaffis trwsio ac mae'n edrych ar y set sgiliau a'r galluoedd gofynnol wrth ddylunio Cadwyni Cyflenwi Adfywio a Sero Net. Drwy ei hymchwil, nod Nadine yw darparu gwerth cyhoeddus drwy greu llesiant cymdeithasol ac economaidd. Cyn ymuno â'r byd academaidd, magodd brofiad gwerthfawr yn y diwydiant yn gweithio yn adran logisteg sefydliad peiriannau a pheirianneg cyfarpar yn Shanghai.