Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Paul Griffiths

Paul Griffiths - Pennaeth Cyflenwi Masnachol, Llywodraeth Cymru

Mae Paul yn arwain Caffael o fewn Llywodraeth Cymru, gan oruchwylio gwariant o tua £700 miliwn. Mae hefyd yn llywio'r gwaith o ddarparu piblinell gaffael gydweithredol i Gymru gyda thros 30 o fframweithiau cenedlaethol. Cyn hyn, gwnaeth Paul gyflawni gwahanol rolau caffael ar draws sector Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Pennaeth Rheoli Categori y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) a'r Cynghorydd Caffael Strategol o fewn Adran yr Economi Llywodraeth Cymru. Yn eiriolwr dros gynnwys BBaChau a Mentrau Cymdeithasol Cymru mewn cadwyni cyflenwi yn y sector cyhoeddus, mae tîm Paul wedi ennill nifer o wobrau yng Ngwobrau Go Wales am eu gwaith o groesawu a darparu gwerth cymdeithasol.