Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Picture of Qwerin

QWERIN

Ynllawn Llawenydd, mae QWERIN wedi'i ysbrydoli gan batrymau llyfn dawnsio gwerin Cymreig sy'n gwau drwy'i gilydd, ynghyd ag egni curiad clybiau nos Cwiar. Mae QWERIN yn ei ôl eleni ar ei newydd wedd, yn cynnig sylwadau ar y syniadau o Gymreictod a bod yn Cwiar drwy berfformiad dawns gyfoes sy'n dathlu diwylliant, hunaniaeth a chymuned.

Cafodd QWERIN ei greu yn 2021 fel comisiwn gan Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru a chafodd ei ddatblygu'n ddarn o waith hyd-llawn ar gyfer chwe dawnsiwr yn 2022 gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogaeth ychwanegol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.