Sandra Esteves - Athro mewn Technoleg Biobrosesau ar gyfer Adennill Adnoddau: Ynni a Deunyddiau, Prifysgol De Cymru
Mae Sandra Esteves yn Athro mewn Technoleg Biobrosesau ar gyfer Adennill Adnoddau: Ynni a Deunyddiau, yng Nghanolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cynaliadwy, Prifysgol De Cymru. Mae gan Sandra 25 mlynedd o brofiad ymchwil a datblygu ym maes biotechnoleg, ac mewn defnyddio’r dechnoleg honno ar raddfa lawn. Mae wedi llwyddo i sicrhau ac arwain nifer mawr o brosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol, gan ddenu dros £15 miliwn o gyllid allanol oddi wrth ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys yr UE, Cynghorau Ymchwil y DU, cyrff cyllido Llywodraeth y DU, Innovate UK, OFWAT, Llywodraeth Cymru, ac mae hefyd wedi denu incwm diwydiannol uniongyrchol oddi wrth gwmnïau allweddol fel TATA Steel, Wales & West Utilities, Dŵr Cymru, Thames Water, Hafren Trent, Veolia ac ARUP.
Sandra yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Cymru mewn Treulio Anaerobig (www.walesadcentre.org.uk) ac mae’r Ganolfan honno, ers iddi gael ei sefydlu yn 2008, wedi cefnogi dros 300 o gwmnïau, gan gynnwys BBaChau. Mae'n parhau i gynnig cymorth ymchwil a datblygu i'r diwydiant Treulio Anaerobig yn y DU ac yn rhyngwladol, ac i ddatblygwyr polisi a rheoleiddwyr. Mae hefyd yn cynghori Cymdeithas Bionwy Ewrop yn ogystal â chymdeithasau masnach cenedlaethol.