Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Sarah Edwards

Sarah Edwards - Prif Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol, Cyngor Sir Penfro

Sarah Edwards yw Prif Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Penfro, gyda dros 16 mlynedd o brofiad yn y Sector Gwastraff. Mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu gwasanaethau ailgylchu ac ailddefnyddio a'r seilwaith cysylltiedig sy'n galluogi Sir Benfro i gyflawni perfformiad ailgylchu o dros 70% ers 2020, 5 mlynedd cyn targed statudol Llywodraeth Cymru.

Mae Sarah yn Rheolwr Gwastraff Siartredig gyda gradd mewn Economeg ac Ystadegau, sydd wedi arbenigo mewn Rheoli Prosiectau a Rhaglenni, Cynllunio Strategol, Gweithredu Gwasanaethau a Rheoli Newid.