Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Sarah Germain

Sarah Germain - Prif Swyddog Gweithredol, Fareshare Cymru

Sarah oedd un o gyfarwyddwyr sefydlu a Chadeirydd cyntaf FareShare Cymru. Chwaraeodd hi rôl arweiniol wrth ei sefydlu yn Ne Cymru, ac mae hi wedi arwain FareShare Cymru ers 2012. Cyn gweithio i FareShare Cymru, roedd hi'n Ddirprwy Brif Weithredwr Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru, ac aeth hi hefyd ar secondiad i Lywodraeth Cymru gan eu helpu i lunio eu strategaeth wastraff flaenorol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'.Yn ogystal â hyn, mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau cymunedol i ddatblygu eu prosiectau ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae hi wedi gweithio gyda busnesau bach a chanolig ar wella eu rheoli amgylcheddol, wedi bod yn ddarlithydd i fyfyrwyr MSc, a bu'n Gyfarwyddwr/Ymddiriedolwr y Rhwydwaith Archwilio Cymdeithasol am gyfnod byr.