Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Sarah Miller

Dr. Sarah Miller - Prif Weithredwr, The Rediscovery Centre

Mae Sarah yn wyddonydd amgylcheddol a rheolwr datblygu busnes, gyda thros 25 mlynedd o brofiad proffesiynol yn y DU, Iwerddon ac Awstralia. Yn ystod ei gyrfa, mae Sarah wedi arloesi amrywiaeth eang o fentrau cynaliadwy ar gyfer y sector cyhoeddus, preifat a chymunedol, yn amrywio o orsafoedd trin gwastraff biolegol a mecanyddol ar raddfa fawr i raglenni addysg drwy brofiad a mentrau cymdeithasol gwobrwyedig. Fel sylfaenydd a Phrif Weithredwr ‘Rediscovery Centre’, sef Canolfan Genedlaethol ar gyfer yr Economi Gylchol yn Iwerddon, bu’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu canolfan arddangos economi gylchol gyntaf Ewrop, sef hwb arloesedd sy’n cyflwyno addysg, darparu ymchwil a galluogi polisi a chydweithrediad er mwyn cefnogi ymgysylltiad â dinasyddion.