Sioned Hughes - Rheolwr Prosiect, Cyngor Gwynedd
Mae Sioned Hughes yn Rheolwr Prosiect profiadol sy'n hwyluso gwaith datblygu a hyrwyddo prosiectau, o'r dechrau i'r diwedd, o fewn Adran Addysg Cyngor Gwynedd. Mae gan Sioned bortffolio helaeth ac mae'n rheoli prosiectau cyfalaf o fewn y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Cyn ymuno â'r Awdurdod Lleol, bu Sioned yn gweithio fel Swyddog Marchnata a Recriwtio gyda Phrifysgol Bangor, gan ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a threfnu digwyddiadau yn hyrwyddo Addysg Uwch ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.