Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Bae Caerdydd gyda’r nos

Gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad

Sut i gyrraedd Caerdydd?

Ceir cysylltiadau trafnidiaeth da yng Nghaerdydd, felly mae’n hawdd teithio o fewn y ddinas.

Wrth benderfynu sut i deithio i’r gynhadledd, a wnewch chi ystyried effaith amgylcheddol y gwahanol opsiynau ac a fyddech cystal ag ystyried dewis opsiwn bach ei effaith, fel y trên.

Trên

Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r brif orsaf drenau. Fe’i lleolir mewn man hwylus yng nghanol y ddinas, wrth ymyl gwestai a phrif atyniadau. Mae Gorsaf Caerdydd Canolog yn cynnig gwasanaethau prif linell o Orllewin Cymru, Canolbarth Lloegr, Arfordir De Lloegr a Llundain.

Mae Gorsaf Stryd y Frenhines yn opsiwn arall. Mae’r orsaf hon yn cynnig gwasanaethau rheilffyrdd lleol ar draws Caerdydd ac o Gymoedd De Cymru.

Bydd modd i fynychwyr y gynhadledd brynu tocynnau trên gostyngol os byddant yn teithio ar Great Western Railway.Dim ond ar wefan GWR.com neu trwy ddefnyddio’r ddolen https://www.gwr.com/your-tickets/ways-to-save/business-travel/conferences-and-events y gellir prynu’r tocynnau rhatach hyn.

**Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y ‘print mân’ i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf**

Car

Darllenwch yr adran deithio ar wefan Croeso Caerdydd i gael cyngor priodol, gan ddibynnu ar fan cychwyn eich taith. Dyma’r dudalen deithio: https://www.croesocaerdydd.com/gwybodaeth/teithio-i-gaerdydd/

Ceir digonedd o opsiynau parcio yng nghanol y ddinas. Ceir rhestr faith ar wefan Croeso Caerdydd a gallwch hidlo’r opsiynau ar sail yr ardal y dewiswch barcio ynddi: https://www.croesocaerdydd.com/gwybodaeth/parcio/

Bws

Ffordd rwydd a fforddiadwy o deithio i Gaerdydd.

Mae cwmnïau fel National Express, Megabus a Flixbus yn cynnig gwasanaethau i Gaerdydd o amryw byd o leoliadau.

Hedfan

Lleolir Maes Awyr Caerdydd ym Mro Morgannwg, 13 milltir i’r gorllewin o Gaerdydd. Mae’r maes awyr yn cynnig teithiau hedfan uniongyrchol o nifer o brifddinasoedd, fel Caeredin, Belfast, Dulyn ac Amsterdam, a hefyd o fannau eraill yn Ewrop, yn ogystal â llwybrau cyswllt i gannoedd o gyrchfannau drwy’r byd.

Opsiynau ar gyfer teithio o’r maes awyr:

  • Gwasanaeth trên a bws integredig i ganol y ddinas: taith 49 munud sy’n cynnwys bws gwennol a fydd yn mynd â chi i’r orsaf drenau gerllaw lle gallwch ddewis trên a aiff â chi i ganol Caerdydd.
  • Bws i ganol Caerdydd: taith 70-78 munud o’r tu allan i derfynfa’r maes awyr.
  • Tacsi.