Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Stadiwm Principality

Gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad

Teithio o amgylch Caerdydd i leoliad y gynhadledd

Mae gan Traveline Cymru Gynlluniwr Taith sy’n cynnwys gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus o bob math ar gyfer teithio o amgylch Caerdydd, yn cynnwys bysiau a threnau.

Beicio neu gerdded

Dinas weddol fach yw Caerdydd ac mae’r lleoliadau o fewn pellter cerdded rhwydd i westai canol y ddinas. Hefyd, mae rhannau helaeth o’r ddinas wedi’u palmantu, gan ei gwneud yn haws i bobl gerdded hwnt ac yma.

Ymhellach, ceir digonedd o reseli beiciau ar draws y ddinas. Os na fydd gennych feic gyda chi, gallwch logi beic gan gwmni fel Pedal Power neu gallwch ddefnyddio ap y cwmni i logi beic ‘talu wrth feicio’ a welir ar wasgar ledled Caerdydd.

Tacsis

Ceir nifer o safleoedd tacsis yng nghanol y ddinas lle gallwch ddod o hyd i dacsi trwyddedig. Tacsis du a gwyn, neu rai tebyg i dacsis Llundain, yw tacsis Hackney. Maent yn arddangos arwydd ‘tacsi’ ar y to a chaiff eu trwydded ei harddangos ar blât ar gefn y cerbyd. Dim ond tacsis Hackney y gellir eu galw o ochr y ffordd. Ni ellir galw tacsis preifat o ochr y ffordd – rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Nid oes ganddynt olau ar y to a chaiff eu trwydded ei harddangos ar blât ar gefn y cerbyd. Argymhellwn y dylech holi faint mae eich siwrnai’n debygol o gostio er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o arian cyn teithio.

Map o Leoliadau’r Gynhadledd