Tim Peppin - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Gweithiodd Tim yn Uned Ymchwil Polisi a Materion Ewropeaidd Cyngor Sir Morgannwg Ganol hyd at 1996 pan ymunodd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar ad-drefnu llywodraeth leol. Fel y Rheolwr Polisi yng Nghaerffili, bu'n gweithredu fel swyddog arweiniol y cyngor ar ddatblygu cynaliadwy a chysylltiadau'r sector gwirfoddol corfforaethol a daeth yn rhan fawr o fentrau adfywio cymunedol. Yn 2004 daeth Tim yn Bennaeth Polisi a Gwasanaethau Democrataidd Caerffili ac yn aelod o'i Dîm Rheoli Corfforaethol.
Penodwyd Tim yn Gyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy yn CLlLC ym mis Rhagfyr 2007. Mae'r portffolio, a'r staff yn nhîm Tim, yn ymdrin ag ystod eang o faterion amgylcheddol ac adfywio gan gynnwys gwastraff, trafnidiaeth, cynllunio, mentrau adfywio, datblygu economaidd/busnes a chymunedol, llifogydd a dŵr, cefn gwlad a bioamrywiaeth, Parciau Cenedlaethol, adfywio gwledig yn ogystal â rolau corfforaethol mewn perthynas â chysylltiadau Ewropeaidd a datblygu cynaliadwy. Yn ddiweddar, daeth Tim yn Gyfarwyddwr Corfforaethol (Cyflenwi) yn CLlLC gan ymgymryd â rolau goruchwylio a chydlynu ychwanegol mewn perthynas â swyddogaethau digidol, gwella a chyllid.