Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Lywodraeth Cymru
Cafodd Tracey ei geni a'i magu yng Nghaerdydd cyn gadael i weithio ar draws y DU, yn rhyngwladol ac yn ddiweddarach yn ôl yng Nghymru. Mae Tracey wedi bod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â gwaith adfywio yng Nghymru ac Iwerddon ers dros 25 mlynedd, gan weithio i Lywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU yn ogystal â'r Comisiwn Ewropeaidd a'r OECD.
Ymunodd Tracey â Llywodraeth Cymru yn 2006 ac mae hi wedi gweithio mewn swyddi ym maes polisi economaidd a pholisi trafnidiaeth, yn ogystal â chwarae rôl strategol ar draws yr economi, sgiliau ac adnoddau naturiol. Penodwyd Tracey yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2017, a gyda chyllideb o dros £7bn roedd hi'n yn gyfrifol am lywodraeth leol, tai, adfywio a thir, addysg ysgol, cymunedau a threchu tlodi yn ogystal â'r arolygiaethau gofal ac iechyd yng Nghymru. Roedd hi'n Gadeirydd y Grŵp Cydgysylltu Polisi Treth a Chadeirydd Pwyllgor Buddsoddi Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Ebrill 2022, ymgymerodd Tracey â'r swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, gan gynnwys cyfrifoldeb am seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau ac ynni.
Ym mis Ebrill 2024 daeth Tracey yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, llywodraeth leol, lliniaru ac addasu i effeithiau newid hinsawdd, materion gwledig, tai ac adfywio ledled Cymru, yn ogystal â Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol. Mae cwmpas y gwaith yn helaeth, gyda gweithgareddau'n amrywio o heriau sy'n ymwneud â sicrhau Cymru Sero Net erbyn 2050; sicrhau bod gan bobl gartrefi cynnes, diogel o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni; polisi, perfformiad, cyllid a llywodraethu Llywodraeth leol; datblygu cynllun ffermio cynaliadwy ar gyfer y dyfodol; ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur; yn ogystal â chefnogi'r sectorau bwyd a morol.