Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Ganolfan Griced Genedlaethol

Y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia

Y Brif Gynhadledd - Bore

08:15 - Cofrestru ar agor

09:30 Agoriad yn dechrau

09:40 - Sesiwn Un y Gynhadledd: Taith Cymru tuag at Economi Gylchol

Bydd y brif gynhadledd yn dechrau gyda sesiwn yn edrych ar rannau pwysicaf taith Cymru hyd yn hyn, gan gynnwys golwg ar sut y newidiodd o fod yn un o'r gwledydd diwydiannol cyntaf ac yn economi echdynnol i fod yr ail orau yn y byd am ailgylchu. Bydd y sesiwn yn edrych ar rôl yr elfennau hanfodol hynny sydd wedi trawsnewid Cymru hyd yma, gan gynnwys y partneriaethau sydd wedi bod yn sail iddo a'r polisïau blaengar sydd wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

10:10 - Sesiwn Dau y Gynhadledd: Tyfu'r Economi Gylchol a Gwyrdd

Bydd y sesiwn yn edrych ar ddatblygiad yr economi gylchol a chyfleoedd i gyfrannu at yr economi werdd ac at wyrddu'r economi ehangach. Bydd yn ystyried ffyrdd o gyflymu'r newid i'r economi gylchol a'r rhan y gall diwydiant a busnesau ei chwarae.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

11:00 - Egwyl coffi

11:30 - Sesiwn Tri y Gynhadledd: Datblygu Cymdeithas Gylchol

Bydd y sesiwn hwn yn ymdrin â phwysigrwydd y newid i gymdeithas gylchol, gan gynnwys cyfraniad yr economi gylchol at gynnal cymunedau ffyniannus ac iach a rôl cymunedau wrth sbarduno'r newid hwn. Bydd hyn yn cynnwys edrych sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dod â manteision cymdeithasol yn ogystal â rhai amgylcheddol ac economaidd i osod y sylfeini ar gyfer newid cyfiawn.

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

12:45 - Egwyl cinio