Y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia
Y Prif Gynhadledd – Cyfarfod Llawn
Sesiwn Un y Gynhadledd: Taith Cymru tuag at Economi Gylchol
Dechreuodd y brif gynhadledd gyda sesiwn yn edrych ar rannau pwysicaf taith Cymru hyd yn hyn, gan gynnwys golwg ar sut y newidiodd o fod yn un o'r gwledydd diwydiannol cyntaf ac yn economi echdynnol i gael ei chydnabod fel yr ail orau yn y byd am ailgylchu. Edrychodd y sesiwn ar rôl yr elfennau hanfodol hynny sydd wedi trawsnewid Cymru hyd yma, gan gynnwys y partneriaethau sydd wedi bod yn sail iddo a'r polisïau blaengar sydd wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru.
Ymysg y siaradwyr roedd:
- Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
- Sgwrs gyda Huw Irranca-Davies, AS a'r Cynghorydd Andrew Morgan, gyda Dot Davies yn llywio.
Sesiwn Dau y Gynhadledd: Tyfu'r Economi Gylchol a Gwyrdd
Hoeliodd y sesiwn sylw ar ddatblygiad yr economi gylchol a chyfleoedd i gyfrannu at yr economi werdd ac at wyrddu'r economi ehangach. Ystyriwyd ffyrdd o gyflymu'r newid i'r economi gylchol a'r rhan y gall diwydiant a busnesau ei chwarae.
Ymysg y siaradwyr roedd:
- Sebastian Munden, Cadeirydd, WRAP
- Sesiwn panel ar dyfu'r economi gylchol yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gydag Andrew Slade yn llywio:
- Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol, Diwydiant Sero Net Cymru
- Dr. Carsten Gerhardt, Cadeirydd, Circular Valley Foundation
- Uxue Itoiz, Cyfarwyddwr Cyffredinol Ynni, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi ac Entrepreneuriaeth, yn yr Adran Diwydiant a Thrawsnewid Busnesau Ecolegol a Digidol, Navarra
- Sebastian Munden, Cadeirydd, WRAP
Sesiwn Tri y Gynhadledd: Datblygu Cymdeithas Gylchol
Roedd y sesiwn hwn yn ymdrin â phwysigrwydd y newid i gymdeithas gylchol, gan gynnwys cyfraniad yr economi gylchol at gynnal cymunedau ffyniannus ac iach a rôl cymunedau wrth sbarduno'r newid hwn. Trafododd aelodau'r Panel sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dod â manteision cymdeithasol yn ogystal â rhai amgylcheddol ac economaidd i osod y sylfeini ar gyfer newid cyfiawn.
Ymysg y siaradwyr roedd:
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Sesiwn panel ar sut i sicrhau bod y newid i gymdeithas fwy cylchol yn un cyfiawn, gyda Dot Davies yn llywio:
- Sarah Germain, Prif Swyddog Gweithredol, Fareshare Cymru
- Cillian Lohan, Pennaeth, Green Economy Foundation, Iwerddon
- Dilyana Mihaylova, Uwch Reolwr Dylunio, Sefydliad Ellen MacArthur
- Champa Patel, Cyfarwyddwr Gweithredol Llywodraethau a Pholisi, Climate Group
- Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Arddangos sut mae pobl ifanc yn cyfrannu at greu'r economi gylchol yng Nghymruol: