Y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia
Y Brif Gynhadledd - Sesiynau Trafod
Yn ystod y brif gynhadledd,treuliwyd y prynhawn yn cynnal sesiynau trafod ar ystod eang o bynciau.
Sesiwn Drafod 1: Cydweithio wrth Arloesi: Sesiwn Frocera
Cynhaliodd Twf Busnes Innovate UK sesiwn frocera er mwyn meithrin cysylltiadau ym maes trosglwyddo gwybodaeth rhwng sefydliadau yn y DU a phartneriaid rhyngwladol. Un o amcanion eraill y sesiwn oedd meithrin cyfleoedd i gydweithio rhwng rhanbarthau sy'n rhan o Rwydwaith Menter Ewrop (EEN). Gwahoddwyd academyddion a chynrychiolwyr y trydydd sector i fod yn bresennol hefyd er mwyn iddynt gael rhannu eu meysydd diddordeb. Roedd y sesiwn yn cynnwys gwybodaeth am y amryfal becynnau cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn hwyluso cyfleoedd i gydweithio ac arloesi ar lefel ryngwladol. Profodd y sesiwn yn gyfle gwych i gynrychiolwyr gyfarfod ag arloeswyr eraill o'r un anian a dysgu mwy am y cymorth y mae Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn ei gynnig ar gyfer prosiectau arloesi a phrosiectau yn yr economi gylchol.
Sesiwn Drafod 2: Annog ymddygiad cylchol yng Nghymru a ledled y byd
Aed ati yn ystod y sesiwn hon i edrych yn fanwl ar y syniadau a sbardunodd y strategaeth ar gyfer ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha. Edrychwyd ar y gweithgareddau a ysbrydolodd gynulleidfaoedd yng Nghymru, a dangoswyd yr effaith yr oedd yr ymgyrch wedi'i chael o ran atal gwastraff bwyd ac annog pobl i ailgylchu. Rhoddwyd sylw hefyd yn ystod y sesiwn i'r ymgyrchoedd atal gwastraff bwyd yr ydym wedi'u cynnal mewn partneriaeth â gwledydd ledled y byd, a dangoswyd sut mae teilwra'r ymgyrchoedd hynny i gynulleidfaoedd a diwylliannau gwahanol yn cynyddu'u heffaith. Dysgodd y cynrychiolwyr am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â chyflwyno ymgyrch ddwyieithog ar gyfer dinasyddion ac am y gwaith y mae angen ei wneud i deilwra negeseuon ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.
Dyma rai o'r siaradwyr:
Sesiwn Drafod 3: Effaith Academia: Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
Cynhaliwyd trafodaeth gan banel yn ystod y sesiwn hon, gan roi cyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan a holi cwestiynau. Aeth academyddion o brifysgolion Cymru ati i esbonio sut y mae eu hymchwil yn effeithio ar y newid i economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt, a thrafodwyd sut y mae myfyrwyr yn meithrin y sgiliau y mae eu hangen arnynt er mwyn hybu'r economi gylchol.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Yr Athro Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
- Dr Katie Beverley, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Yr Athor Gavin Bunting, Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe
- Yr Athro Sandra Esteves, Prifysgol De Cymru
- Max Green, Cymrawd Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Abertawe
- Dr Kersty Hobson, Prifysgol Caerdydd
- Dr. Nadine Leder, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Cameron Pleydell-Pearce, Prifysgol Abertawe
Sesiwn Drafod 4: YrEconomi Gylchol ar Waith: Llwybrau at Ddatblygu Cynaliadwy
Cynhaliwyd y gweithdy arbrofol a gafaelgar hwn gan dîm CEIC (Prifysgolion Abertawe a Met Caerdydd). Buont yn egluro sut y maent wedi helpu sefydliadau i feithrin y gallu i arloesi ac i fod yn rhan o'r Economi Gylchol (CE) ac i leihau eu hôl troed carbon a chynhyrchu mwy. Mae CEIC wedi helpu dros 120 o sefydliadau, busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector i ddatblygu cynllun Twf Glân a Chynllun Lleihau Carbon drwy roi help llaw iddynt ddeall egwyddorion yr economi gylchol a meithrin y sgiliau arloesi y mae eu hangen arnynt er mwyn rhoi prosesau ac arferion newydd ar waith yn eu sefydliadau.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Dr. Gary Walpole, Cyfarwyddwr CEIC, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Jill Davies, Rheolwr Rhaglenni - CEIC, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sesiwn Drafod 5: Sbarduno egwyddorion cylchol yn y sector cyhoeddus
Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol hwn, cafodd y cynrychiolwyr y cyfle i ddysgu sut y mae polisïau ac arferion y Llywodraeth yn cyd-fynd â'i gilydd, a sut y mae prosesau caffael cyhoeddus Cymru yn dylanwadu ar gwsmeriaid i fabwysiadu'r egwyddorion hyn ar draws y cylch caffael er mwyn ysgogi defnydd cyfrifol. Ar ôl cyflwyniadau a oedd yn amlinellu sut y mae prosesau caffael cyhoeddus yn un o'r ffyrdd allweddol o sbarduno strategaeth economi gylchol Cymru, a sut y mae dilyn hierarchaeth gaffael gynaliadwy yn gam cyntaf pwysig i sefydliadau, cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn gweithdy i ystyried pa gamau y gallent eu cymryd i sicrhau bod ymarferion caffael yn arwain at y canlyniadau gorau o ran cynaliadwyedd.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Paul Griffiths, Pennaeth Cyflenwi Masnachol, Llywodraeth Cymru
- Aled Guy, Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Sero Net, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Heulwen Hudson, Rheolwr - Yr Economi Gylchol, Llywodraeth Cymru
- Pauline Vella, Rheolwr Cyflawni - Cymorth Technegol, WRAP Cymru.
Sesiwn drafod 6: O'r llinol i'r cylchol - atgyweirio ac ailddefnyddio ar draws y gadwyn werth
Rhoddwyd sylw yn ystod y sesiwn hon i sut y gall ailddefnyddio ac atgyweirio weithio er budd pobl a defnyddwyr. Gan ddefnyddio'r trywydd ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru: Tuag at Ddiwylliant Cyffredinol o Atgyweirio ac Ailddefnyddio yng Nghymru, bu'r panel yn trafod sut i annog mwy o bobl i atgyweirio ac ailddefnyddio.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Rhaglen Menter, Cwmpas
- Claire Downey – Cyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil, The Rediscovery Centre
- Bettina Gilbert, Pennaeth yr Economi Gylchol, WRAP
- Alun Harries, Rheolwr Elusennau, Wastesavers
- Jon Howes, Cydlynydd Gweithdy, Gweithdy Beicio Caerdydd
Sesiwn Drafod 7: Arloesi cylchol ym myd busnes: Astudiaethau Achos
Aed ati yn ystod y sesiwn hon i edrych ar astudiaethau achos arloesol gan fusnesau a sefydliadau sy'n hybu'r economi gylchol drwy arloesi a chydweithio. Mewn dwy sesiwn wahanol, cafodd y cynrychiolwyr gyfle iwrando ar fusnesau a sefydliadau o Gymru a thu hwnt yn rhannu eu hanes a'r gwersi a ddysgwyd ganddynt, ac yn manylu ar eu llwyddiant wrth sicrhau bod egwyddorion cylchol yn rhan annatod o'u harferion bob dydd. Yn ystod y sesiwn gyntaf, bu'r cynrychiolwyr yn dysgu am y gwaith y mae'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) yn ei wneud gyda BBaChau ar drawsnewid digidol. Cawsant gyfle hefyd i glywed am lwyddiant Smile Plastics wrth i'r cwmni greu cynhyrchion hardd o blastigau sydd wedi cael eu defnyddio eisoes, ac am y gwaith y mae WRAP yn ei wneud gyda gyda phartneriaid, gan gynnwys Amazon a Sefydliad Ellen MacArthur, wrth ddatblygu Safonau Byw Cylchol ar gyfer cynhyrchion defnyddwyr. Yn ystod yr ail sesiwn, cyflwynodd Polytag ei waith ar olrhain ailgylchu, a thynnwyd sylw at brosiect gydag Ocado. Bu CIRCULÉIRE - Irish Manufacturing Research yn amlinellu'r gwaith y mae'n ei wneud yn Iwerddon i gefnogi arloesi a chydweithio cylchol, a rhoddodd Grŵp W. Howard drosolwg o'r prosiect Pillo a'r gwaith y mae'n ei wneud i ddatrys problem gwastraff MDF.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Jon Anderson, Prif Swyddog Technoleg Polytag
- Dr Geraldine Brennan – Pennaeth yr Economi Gylchol, Ymchwil Gweithgynhyrchu Iwerddon
- Adam Crowe – Pennaeth Safonau Cylcholrwydd Cynnyrch, WRAP
- Simon Fleet, Cyfarwyddwr Masnachol y Grŵp, W. Howard Group
- Rosalie McMillan, Cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Smile Plastics
- Andrew Martin, Pennaeth Bwyd, Diod, a Thechnoleg Amaeth, AMRC Cymru
Sesiwn Drafod 8: Llwyddiannau Ailgylchu Cymru
Aed ati yn ystod y sesiwn hon i edrych ar sut y mae Cymru wedi llwyddo i ddod yn un o wledydd gorau'r byd am ailgylchu. Edrychwyd hefyd ar yr agwedd flaengar a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol - agwedd sydd wedi sbarduno'r llwyddiant hwnnw. Bu'r panelwyr yn ymdrin â phynciau megis glasbrint casglu Llywodraeth Cymru, y rheoliadau ar ailgylchu yn y gweithle a ddaeth i rym yn ddiweddar, ac uchelgais Cymru i fod yn wlad orau'r byd am ailgylchu. Clywodd y cynrychiolwyr am daith ailgylchu Cyngor Sir Penfro dros y ddau ddegawd diwethaf a'r gwaith sydd wedi'i wneud i sicrhau ei fod yn ailgylchu dros 70% o'i wastraff yn Sir Benfro. Bu Biffa yn sôn am ei brofiadau ef hefyd, a chyflwynodd rhai o'r gwersi a ddysgwyd ar ôl i'r rheoliadau ar ailgylchu yn y gweithle gael eu cyflwyno yng Nghymru. Cyflwynodd Recresco astudiaeth achos o'i waith yn ailbrosesu ac ailgylchu gwydr.
Dyma rai o'r siaradwyr:
- Sarah Edwards, Prif Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol, Cyngor Sir Penfro
- Tim Gent, Rheolwr Cyffredinol, Recresco
- Tim Peppin, Cyfarwddwr Corfforaethol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Dr Andy Rees OBE, Pennaeth y Strategaeth Wastraff, Llywodraeth Cymru
- Simon Rutledge – Rheolwr Cynaliadwyedd a Materion Allanol y Grŵp, Biffa