Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru Logo Hotspot Economi Gylchol Cymru
Llun o Sophia Gardens room.

Y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia

Y Brif Gynhadledd - Prynhawn

Bydd y prynhawn ar gyfer sesiynau grŵp, yn trafod ystod eang o bynciau. Bydd cynrychiolwyr yn cael eu dyrannu i ddwy sesiwn.

Bydd y sesiwn gyntaf yn rhedeg 14:00 - 15:00 a'r ail sesiwn yn rhedeg 15:30 - 16:30, gydag egwyl te a choffi rhyngddynt.

Sesiwn Grŵp 1: Cydweithredu wrth Arloesi: Sesiwn Broceriaeth

14:00 - 15:00

Amber Ystafell

Bydd Innovate UK Business Growth yn cynnal sesiwn froceru gyda’r nod o feithrin cysylltiadau trosglwyddo gwybodaeth rhwng sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y DU a phartneriaid rhyngwladol, gan gynnwys cyfleoedd i gydweithredu rhwng rhanbarthau sydd ynghlwm â’r Rhwydwaith Menter Ewrop (EEN). Gwahoddir academyddion a chynrychiolwyr o’r trydydd sector i fynychu ac i rannu eu meysydd o ddiddordeb er mwyn gallu paru cysylltiadau broceru. Ategir y sesiwn gan wybodaeth ar y gwahanol becynnau cymorth busnes sydd ar gael i hwyluso cyfleoeodd cydweithrediadau arloesol rhyngwladol. Sylwch, ceir gwybodaeth ategol gan gyfranogwyr cyn cynnal y digwyddiad hwn er mwyn bod o gymorth wrth greu cysylltiadau broceru / paru priodol, a bydd hyn yn cynnwys y defnydd o B2Match.

Sesiwn Grŵp 2: Annog Ymddygiadau Cylchol yng Nghymru ac ar Draws y Byd

14:00 - 15:00

15:30 - 16:30

Pyramid Ystafell

Bydd y sesiwn hon yn edrych yn fanwl ar y syniadau a sbardunodd creu 'Bydd Wych', Strategaeth yr ymgyrch ailgylchu, gan edrych ar y gweithgareddau sydd wedi ysbrydoli cynulleidfaoedd yng Nghymru ac yn datgelu ei heffaith ar atal gwastraff bwyd ac ymddygiad ailgylchu. Byddwn hefyd yn trafod yr ymgyrchoedd atal gwastraff bwyd rydym wedi'u cynnal, mewn partneriaeth â gwledydd ledled y byd, a dangos sut mae eu haddasu yn ôl gofynion y gynulleidfa a'u diwylliant yn cynyddu'u heffaith.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 3: Effaith Academia: Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

14:00 - 15:00

15:30 - 16:30

Executive Boxes Ystafell

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys trafodaeth panel gyda chyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan a holi cwestiynau. Bydd academyddion yn esbonio sut mae eu hymchwil yn effeithio ar y newid i economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt a sut mae myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i hybu'r economi gylchol.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 4: Economi Gylchol ar Waith: Llwybrau at Ddatblygu Cynaliadwy

14:00 - 15:00

15:30 - 16:30

Museum Ystafell

Darperir y gweithdy arbrofol a dwys hwn gan dîm CEIC (Prifysgolion Abertawe a Met Caerdydd) a bydd yn egluro sut maent wedi cefnogi sefydliadau i ddatblygu medrau arloesi ac o ran yr Economi Gylchol (CE) a lleihau eu hôl troed carbon a chynyddu cynhyrchiant. Mae CEIC wedi cefnogi dros 120 o sefydliadau, busnesau a mudiadau'r trydydd sector i ddatblygu cynllun Twf Glân a Chynllun Lleihau Carbon trwy eu helpu i ddeall egwyddorion yreconomi gylchol a datblygu'r sgiliau arloesi sydd eu hangen i roi prosesau ac arferion newydd ar waith yn eu sefydliad.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 5: Sbarduno Egwyddorion Cylchol yn y Sector Cyhoeddus

15:30 - 16:30

Amber Ystafell

Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol hwn, byddwch yn dysgu sut mae polisi ac ymarfer y Llywodraeth yn cyd-fynd â’i gilydd, a sut mae caffael cyhoeddus Cymru yn dylanwadu ar gwsmeriaid i fabwysiadu'r egwyddorion hyn ar draws y cylch caffael i hybu defnydd cyfrifol. Gallwch ddisgwyl cael eich herio a myfyrio ar y camau y gallech eu cymryd i wneud gwahaniaeth.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 6: O'r Llinol i'r Cylchol - Trwsio ac Ailddefnyddio ar Draws y Gadwyn Werth

15:30 - 16:30

The View Ystafell

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut y gall ailddefnyddio a thrwsio weithio er lles pobl a defnyddwyr. Defnyddio y map ffyrdd trwsio ac ailddefnyddio yng Nghymru: Tuag at Ddiwylliant lle mae pawb yn trwsio ac yn ailddefnyddio yng Nghymru. Bydd y panel yn trafod syniadau sut i gael mwy o bobl i drwsio ac ailddefnyddio.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 7: Arloesi Cylchol mewn Busnes: Astudiaethau Achos

14:00 - 15:00

15:30 - 16:30

Lewis Lounge Ystafell

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys astudiaethau achos arloesol gan fusnesau sy'n buddsoddi mewn hybu'r economi gylchol trwy arloesi a chydweithio. Ym mhob sesiwn, bydd busnes o Gymru neu du hwnt yn rhannu ei stori, ei wersi a manylion ei lwyddiant wrth ymgorffori egwyddorion cylchol yn ei arferion bob dydd.

Ymhlith y siaradwyr bydd:

Sesiwn Grŵp 8: Llwyddiannau Ailgylchu Cymru

14:00 - 15:00

The View Ystafell

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar lwyddiant Cymru i fod yn un o'r gwledydd gorau yn y byd am ailgylchu ac ar agwedd meddwl flaengar Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi sbarduno'r llwyddiant hwn. Bydd panelwyr yn ymdrin â phynciau fel glasbrint casgliadau Llywodraeth Cymru, rheoliadau ailgylchu yn y gweithle a ddaeth i rym yn ddiweddar ac uchelgais Cymru i fod y wlad ailgylchu orau yn y byd.

Ymhlith y siaradwyr bydd: